Fe fydd diffoddwyr tân o Gymru ymhlith miloedd sy’n mynd i Lundain heddiw i brotestio yn erbyn toriadau gwario.
Y disgwyl yw y bydd miloedd o aelodau undeb y diffoddwyr, yr FBU, yn cynnal rali yn San Steffan ac yn lobïo aelodau seneddol.
Maen nhw’n honni y bydd bywydau mewn peryg a bod y toriadau gwario’n bygwth hyd at 7,000 o swyddi – un o bob naw diffoddwr.
Dadl yr undeb yw bod toriadau o 25% mewn pedair blynedd yng ngrant cyfalaf y gwasanaeth yn golygu colli wythfed rhan o’u holl gyllid, gyda’r lefel yn uwch na hynny mewn ardaloedd dinesig.
Mae disgwyl y bydd arweinwyr undebau eraill ac ASau Llafur yn annerch y cyfarfod yn San Steffan.
“Y nod yw tynnu sylw at y ffordd y mae toriadau gwario’r Llywodraeth mewn peryg o danseilio’r gwasanaeth rheng flaen gwerthfawr yma a thanio’r gwrthwynebiad i’r toriadau,” meddai Matt Wrack, Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU.