Mae’r pwysau’n cynyddu ar Iwerddon i dderbyn arian cymorth gan yr Undeb Ewropeaidd gyda pharatoadau ar gyfer pecyn achub.
Fe gadarnhawyd neithiwr y bydd swyddogion o Fanc Canolog Ewrop yn mynd i Ddulyn ddiwedd yr wythnos i drafod ymhellach.
Mae gwledydd gwan eraill, fel Portiwgal, yn dadlau bod angen sefydlogi’r economi yn Iwerddon er mwyn achub gweddill y gwledydd sy’n defnyddio’r Ewro.
Heddiw, fe fydd holl weinidogion cyllid yr Undeb yn cwrdd ar ôl cyfarfod neithiwr o’r 16 sydd yn Ardal yr Ewro. Fe fydd Canghellor Prydain, George Osborne, yn rhan o’r trafodaethau ehangach.
‘Paratoadau byr a dwys’
Mewn cyfarfod teirawr, fe benderfynodd yr 16 y bydd paratoadau “byr a dwys” yn cael eu creu ar gyfer pecyn i achub economi Iwerddon – er bod llywodraeth y wlad yn mynnu nad oes angen hynny.
Ond mae’r Llywodraeth yn Nulyn wedi derbyn yr angen am y paratoadau ac roedd y Gweinidog Cyllid Brian Lenihan fel petai’n derbyn bod rhaid gweithredu.
Un posibilrwydd yw pecyn yn canolbwyntio ar y banciau yn Iwerddon – nhw sy’n cael llawer o’r bai am yr argyfwng ac mae’r Llywodraeth eisoes wedi gorfod gwario degau o biliynau o bunnoedd yn eu helpu.
‘Angen sefydlogi’
Mae papur yr Irish Times yn ei ddyfynnu’n dweud nad oes dim penderfyniad wedi ei wneud ac nad yw’r Llywodraeth wedi gofyn am gymorth ond yn cydnabod bod angen gweithredu i sefydlogi sefyllfa’r Ewro.
“Mae’r farchnad yn cael ei siglo,” meddai wrth y papur, “ac mae hynny’n peryglu Ardal yr Ewro i gyd, nid dim ond Iwerddon felly mae’n bwysig ein bod ni’n wynebu’r problemau strwythurol hyn ac yn delio gyda nhw.”
Ond mae Llywodraeth Iwerddon yn mynnu eu bod nhw am allu datrys y trafferthion – gyda chyllideb galed a strategaeth ariannol yn cael ei chyhoeddi o fewn y dyddiau nesaf.