Mae helynt wedi codi o fewn clwb criced Morgannwg ar ôl i’r capten gael ei ddisodli’n sydyn gan chwaraewr tramor newydd.

Fe gyhoeddodd y sir ddoe bod y chwaraewr rhyngwladol o Dde Affrica, Alviro Petersen, yn ymuno â’r sir ac yn cael ei wneud yn gapten.

Bellach, mae awgrym cry’ nad oedd y Rheolwr Criced, Matthew Maynard, yn gwybod dim am hynny ac mae rhai’n disgwyl y bydd ef a’r cyn-gapten, James Dalrymple, yn gadael.

Fe ddywedodd cyn-gapten Morgannwg ac un o gyn gyd-chwaraewyr Maynard, Steve James, nad oedd modd i’r Rheolwr aros ac y byddai Dalrymple yn mynd hefyd.

‘Angen gwella yn y gemau undydd’

Fe wnaeth Prif Weithredwr Morgannwg yn glir mai un o’r rhesymau tros y newid oedd methiant y sir yn y gemau undydd – fe ddaethon nhw o fewn dim i gael dyrchafiad ym Mhencampwriaeth y Siroedd ond heb ddim llwyddiant o gwbl yn y gemau byr.

“Yn benodol, mae record Morgannwg mewn criced undydd yn ystod y blynyddoedd diwetha’ wedi bod yn siomedig iawn,” meddai Alan Hamer.

“Mae penodi Alviro’n gapten yn rhan allweddol o strategaeth y Clwb i wella yn ystod y tymhorau nesa’. Yn ogystal â bod yn chwaraewr rhyngwladol o safon, mae hefyd yn arweinydd ardderchog.”

Dim ond un frawddeg fer oedd ganddo i ddiolch i Jamie Dalrymple sydd wedi bod yn gapten yn ystod y ddau dymor diwetha’. Pwyllgor y sir sy’n dewis y capten.

Alviro – y cefndir

Alviro Petersen, sy’n 29 oed, yw batiwr agoriadol De Affrica ar hyn o bryd ac fe sgoriodd 100 yn ei Gêm Brawf gynta’ ym mis Chwefror. Mae hefyd yn gapten ar yr Highveld Lions yn ei wlad ei hun.

Mae Morgannwg yn awr yn anelu at arwyddo chwaraewr tramor arall.

Llun: Jamie Dalrymple – y cyn-gapten ers ddoe