Mae’n ymddangos mai iechyd fydd pwnc mawr y toriadau yng ngwario Llywodraeth y Cynulliad, gyda’r Ceidwadwyr yn galw am warchod y gwario yn y maes.

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, eisoes wedi gwrthod hynny ond mae’n addo rhoi blaenoriaeth i iechyd ac addysg pan fydd manylion y toriadau’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Ddoe, roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne, yn mynnu y byddai ei blaid ef yn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd rhag toriadau, er gwaetha’ honiadau’r Llywodraeth y byddai hynny’n golygu toriadau o 20% mewn meysydd eraill.

Fe fydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud am dri o’r gloch y prynhawn yma yn y Cynulliad, gyda’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn dweud y bydd y toriadau’n “deg” ac yn lleddfu rhywfaint ar effaith polisïau San Steffan.

Iechyd sy’n gyfrifol am tua hanner holl wario’r Llywodraeth ac fe fydd y cyfanswm yn cwympo’r flwyddyn nesa’ o £15 biliwn i £14.5 biliwn – gyda chwyddiant, mae’r Llywodraeth yn honni y bydd y cwymp tua £860 miliwn.

Barn y pleidiau

Yn ôl Carwyn Jones, fe fyddai gwarchod iechyd yn arwain at dorri £1.3 biliwn o feysydd eraill ond roedd Nick Bourne yn mynnu bod modd gwneud hynny, yn union fel yn Llundain.

Mae Carwyn Jones eisoes wedi gwneud yn glir y bydd buddiannau cyffredinol – fel brecwast am ddim i blant ysgol neu foddion am ddim – yn cael eu cadw.

Galw am dorri gwastraff a wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, tra bod llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Chris Franks, yn rhybuddio bod toriadau mawr mewn gwario cyfalaf yn fygythiad mawr.

Fe fydd y toriadau o fwy na 40% mewn arian i’w wario ar gynlluniau fel adeiladau a ffyrdd yn arwain at golli swyddi yn y sector preifat yn ogystal â’r sector cyhoeddus, meddai.

Llun: Nick Bourne