Dyw’r cyhoeddiad heddiw bod y Tywysog William yn mynd i briodi ‘Waity Katie’ ar ôl hir ymaros ddim yn syndod mawr o ystyried fod bron i bawb yn gwybod hynny o flaen llaw – roedd y wasg fel rhedwyr yn disgwyl i’r gwn danio ar ddechrau ras.  Ond mae’r newyddion hapus yn codi ambell i gwestiwn diddorol.

Ymysg y rheini: Os ydi’r briodas yn y gwanwyn, pa effaith fydd yr holl wladgarwch Prydeinig yn ei gael ar etholiadau’r gwledydd datganoledig ym mis Mai?  A fydd y briodas yn hwb i boblogrwydd Llywodraeth San Steffan? A ydi cynnal priodas fwyaf ‘bling’ y ddegawd, ar draul y pwrs cyhoeddus, wrth i filoedd golli eu gwaith o ganlyniad i’r toriadau ariannol yn syniad da? Ac yn y blaen.

Yn bwysicach fyth, ymhle yng ngogledd Cymru fydd y par priod hapus yn byw? Mae Castell Caernarfon yn wag, er bod angen rywfaint o waith i’w adfer. A dweud y gwir rydw i’n cael yr argraff bod y penderfyniad i drigo yng ngogledd Cymru yn rhan o charm offensive cyn cyhoeddi arwisgiad arall. Hogyn lleol, chwarae teg idda fo, wedi gwneud yn dda.

Un peth arall sy’n dod i’r meddwl. Rydw i’n siŵr y bydd y Briodas ei hun yn ddiwrnod i’r Brenin. Ond am ba hyn y bydd rhaid i’r Tywysog Williams ddisgwyl cyn cael bod yn Frenin ei hun? Os ydi ei fam yn byw i’r un oed a’i mam hithau – cant ag un – ni fydd ei dad y Tywysog Charles yn Frenin tan 2027, yn 80 oed. Bydd o bron yn rhy hen i blygu i lawr i gael ei goroni erbyn hynny! Ac os ydi Charles yn byw i’r un oed a’i fam gu – a diolch i gynnydd ym myd meddygaeth, fe allai fyw yn hirach – fydd y Tywysog William druan ddim yn cael bod yn Frenin tan tua 2050.

Efallai y bydd y briodas fawr yma yn gyfle da i’r Frenhines gyhoeddi ei bod hi’n rhoi’r ffidil yn y to.  Allai neb ddadlau nad ydi hi’n haeddu cael ymddeol. Yna efallai ei bod hi’n bryd newid y rheolau. Dyw hi ddim yn deg gorfodi Charles na William i ddisgwyl tan eu bod nhw tu hwnt i oed ymddeol cyn hyd yn oed dechrau ar y gwaith y cafon nhw eu geni i’w gyflawni. Pan mae’r etifedd aparawns yn cyrraedd ryw oed penodol – 35, neu 40 dyweder – fe ddylai’r Brenin neu Frenhines gael ymddeol a rhoi cyfle i’r crwt newydd ddangos ei ddoniau chwifio llaw.