Mae oedolion bregus ac asiantaethau gofal wedi creu fideo YouTube sy’n annog Cyngor Caerdydd i ailystyried newidiadau i’w gwasanaethau gofal.

Maen nhw eisiau i Gyngor Caerdydd newid eu cynlluniau arfaethedig i dorri nifer yr asiantaethau sy’n darparu gofal yn y cartref o 56 i 11.

Beirniadodd Mary Cotterell MBA, llefarydd ar ran Cymdeithas Darparwyr Gofal Caerdydd, y newidiadau arfaethedig gan ddweud eu bod nhw’n “anymarferol, afrealistig a chreulon”.

Ymatebodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd gan ddweud eu bod nhw’n “ymwybodol o’r fideo ar You Tube ac wedi ystyried y sylwadau a wnaethpwyd yn y ffilm.”

“Fodd bynnag, nid ydym yn teimlo fod You Tube yn fan priodol i drafod anghenion gofal sensitif unigolion gwahanol.

“Mae’r cyngor eisoes wedi ysgrifennu at ddefnyddwyr y gwasanaethau a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig, ac wedi cynnwys rhif cyswllt uwch aelodau staff y Tîm Gwasanaethau Oedolion fel bod modd iddynt drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt.”

Proses ‘agored’

Mae’r cynghorydd annibynnol Jayne Cowan wedi galw’r penderfyniad i mewn heddiw, gan ddweud nad oedd yr un o’r cwmnïau sy’n darparu’r gofal wedi cael y cyfle i roi eu barn cyn y penderfyniad ar 4 Tachwedd.

Dywedodd y Cyngor eu bod nhw wedi cyfarfodydd “wyneb yn wyneb” gyda’r asiantaethau sy’n darparu’r gwasanaeth ar ôl i’r newidiadau gael eu cymeradwyo.

Roedd pob un o’r darparwyr, boed yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus yn y broses dendro, wedi eu gwahodd i fod yn bresennol, medden nhw.

“Roedd y broses dendro yn agored ac yn dryloyw, a bydd y trefniadau newydd yn golygu manteision gwirioneddol i ddefnyddwyr,” meddai’r llefarydd.

“Rydym yn ddiolchgar i’r cwmnïau sydd wedi darparu gofal yn ystod y blynyddoedd diwethaf – mae pob un ohonynt yn cael y cyfle i dendro eto.”