Mae mwy nag 60 o bobol wedi marw yn India ar ôl i adeilad oedd yn cynnwys dau lawr anghyfreithlon chwalu i’r llawr.
Cafodd tua 70 o bobol eraill eu hanafu pan syrthiodd yr adeilad bregus ynghanol New Delhi neithiwr.
Mae’r landlord wedi ffoi ac mae’r heddlu yn chwilio amdano.
Roedd achubwyr yn dal i gloddio drwy’r pentwr o friciau a rodiau haearn heddiw, ond does dim llawer o obaith o ddod o hyd i unrhyw un arall yn fyw.
Gweithwyr crwydrol tlawd oedd y rhan fwyaf o’r trigolion oedd yn byw yno. Mae prisiau rhentu yn y ddinas wedi cynyddu’r gyflym gan orfodi nifer i fyw mewn amgylchiadau truenus.
Roedd yr adeilad dau lawr yn uwch nag y mae rheolau adeiladu’r ddinas yn ei ganiatau, ac roedd y sylfaen wedi ei wanhau gan law’r monsŵns.
Mae prisiau tir yn uchel ynghanol New Delhi ac mae adeiladwyr yn aml yn ychwanegu llawr neu ddau ychwanegol i hen adeiladau.
Cafodd yr adeilad y drws nesaf ei wagio heddiw ar ôl i archwilwyr ddod o hyd i ddŵr yn yr islawr.
“Roedd yna gymaint o gyrff, doedd yna ddim symudiad o gwbl,” meddai Dil Nawaz Ahmed, newyddiadurwr 25 oed sy’n byw gerllaw.
Dywedodd ei fod o wedi llwyddo i dynnu pum person oedd wedi eu hanafu o’r adeilad, ond daeth o hyd i sawl corff hefyd.
“Roedd yna nifer o blant a merched,” meddai.