Fe fydd Cwmni Sain yn lansio gwefan newydd sbon ddydd Gwener.
Prif rinwedd y wefan newydd fydd rhoi’r cyfle i bobol wrando ar samplau o draciau gwahanol cyn penderfynu prynu.
Fe fydd hi hefyd yn bosib lawr lwytho traciau cyfan o arlwy y cwmni drwy wasanaeth iTunes.
Bydd y wefan yn cael ei lansio fel rhan o bartneriaeth ar y cyd rhwng cwmni Sain a Phrifysgol Bangor.
Nod y fenter yw dosbarthu’r cynnyrch yn ddigidol, gan “ddenu marchnadoedd newydd,” meddai cwmni Sain.
“Rydym bellach hanner ffordd drwy’r cynllun, ac yn falch o gael cyhoeddi bod y wefan newydd yn barod.
“Mae’r Brifysgol a Sain yn awyddus i lansio’r wefan, www.sainwales.com,” meddai llefarydd ar ran cwmni Sain.