Mae’r ysgrifennydd busnes, Vince Cable wedi cadarnhau heddiw ei fod o’n bwriadu cystadlu ar raglen Strictly Come Dancing y Nadolig.

Cyhoeddodd Vince Cable y bydd o’n dawnsio gydag Erin Boag, a’i fod o wedi dechrau ymarfer ar gyfer y rhaglen yn barod.

“Rydw i wedi cael ambell i sesiwn ymarfer gydag Erin. Mae hi’n ddawnswraig wych ac yn athrawes arbennig o dda. Dw i’n edrych ymlaen at gystadlu,” meddai.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Fusnes ei bod hi bellach yn dderbyniol i wleidyddion gymryd rhan yn y rhaglen ddawnsio – ar ôl i Ann Widdecombe gymryd rhan eleni.

“Rydw i wedi dawnsio yn gyhoeddus o’r blaen. Mae’n ddiddordeb sydd gen i, ond fe allai Erin fy nghymryd i lefel llawer uwch,” meddai Vince Cable.