Bu llywydd Abertawe, yr Athro David Farmer, farw ddoe yn 78 oed, cyhoeddodd y clwb heddiw.

Mae cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins, wedi talu teyrnged i’r awdur toreithiog.

“Mae’n golled enfawr i bawb. Roedd o’n ddyn teulu, yn ŵr bonheddig ac yn gefnogwr brwd i glwb Abertawe,” meddai Huw Jenkins.

“Doedd yna ddim byd nad oedd yn gwybod am y clwb a diolch i’w arbenigedd, ymchwil a gwaith caled, mae hanes Abertawe wedi’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r gêm wedi colli un o’i llysgenhadon gorau ac mae ein meddyliau ni gyda’i deulu ar yr adeg drist yma.”

Fe ysgrifennodd David Farmer sawl llyfr am y clwb gan gynnwys Swansea Town/City 1912-82 a bywgraffiad Ivor Allchurch a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Peter Stead, yn ogystal â bywgraffiad swyddogol Abertawe a gyhoeddwyd yn 2000.

Roedd wedi dilyn Abertawe ers iddo fynd i wylio’r clwb yn blentyn chwech oed ar Gae’r Vetch, yn 1938.

Fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr anweithredol ym mis Awst 1997 ac roedd yn gyfrifol am strwythur datblygu ieuenctid y clwb.

Cafodd ei benodi’n llywydd yn 2001.

Fe fydd angladd David Farmer yn cael ei gynnal yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Bethel yn Sgeti am 1.00pm ar 23 Tachwedd.