Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd wedi diolch i Craig Bellamy am ei helpu i ennill ei le yng ngharfan Lloegr ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc nos yfory.

Gydag ymosodwr arall Lloegr, Andy Carroll yn annhebygol o fod ar gael i wynebu tîm Laurent Blanc, mae gan Bothroyd gyfle da i ennill ei gap cyntaf dros Loegr.

Jay Bothroyd fydd y chwaraewyr cyntaf o glwb Caerdydd i ennill cap tros Loegr, a hynny mewn 111 o flynyddoedd.

Ymosodwr yr Adar Glas fyddai’r chwaraewr cyntaf y tu allan i’r Uwch Gynghrair i gynrychioli Lloegr ers i David Nugent wneud hynny yn erbyn Andorra yn 2007.

Dywedodd Jay Bothroyd bod cymorth Bellamy wedi bod yn amhrisiadwy wrth iddo dargedu lle yn y garfan genedlaethol.

“Mae Craig wedi bod yn ardderchog. Rwy’n siarad gydag ef yn gyson ac yn gweld beth mae o’n ei wneud bob dydd,” meddai Bothroyd.

“Rydw i’n ei nabod ers ein hamser gyda Coventry. Mae o wedi dweud wrtha’i sut alla’i wella ac rydw i wedi derbyn ei gyngor.

“Mae cael chwaraewr o’i safon ef yn ymuno gyda ni wedi bod yn wych.”