Mae’r ymateb i arolwg y Pwyllgor Materion Cymreig i arian S4C wedi bod yn “dda” meddai llefarydd ar ran y Pwyllgor.

Fe ddywedodd wrth Golwg360 eu bod wedi cael amrywiaeth dda o ymatebion wrth ystyried cynlluniau’r Llywodraeth yn Llundain i dorri ar arian y sianel a’i rhoi dan adain y BBC.

Ddoe oedd dyddiad cau y pwyllgor o ran derbyn cyflwyniadau ysgrifenedig ar gyfer yr arolwg.

Mae’r Pwyllgor am archwilio’r syniad bod y cyfrifoldeb tros S4C a darlledu’n cael ei ddatganoli ac yn edrych ar record y sianel o ran yr economi a defnydd effeithiol o arian.

Yn ôl y llefarydd, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn mynd drwy’r dystiolaeth ac yn prosesu’r wybodaeth cyn ei rhoi gerbron y pwyllgor ddiwedd yr wythnos hon a dechrau’r wythnos nesaf.