Mae ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra, yn Dubai yn ymchwilio i’r posibilrwydd o chwarae pêl-droed rhyngwladol i dîm cenedlaethol India.
Fe fu Chopra’n trafod gyda hyfforddwr India, Bob Houghton, cyn gwylio India yn colli gêm gyfeillgar 9-1 yn erbyn Kuwait yn Abu Dhabi.
Fe gafodd Chopra ei eni yn Newcastle ond mae ganddo wreiddiau teuluol yn India, ac mae’n gymwys i chwarae dros y wlad gan fod ei fam-gu a’i dad-cu wedi eu geni yno.
Hyd yn oed pe bai Chopra yn cytuno i gynrychioli India, mar rheolau’r wlad yn dweud bod rhaid i chwaraewyr ddal pasbort Indiaidd cyn cael yr hawl i chwarae yno.
Bydd rhaid i Chopra, sydd wedi chwarae dros Loegr dan 21, ystyried a yw’n awyddus i chwarae dros dîm sy’n 144fed ar restr detholion y byd sy’n cael ei llunio gan FIFA.
Pe bai Michael Chopra yn cytuno i chwarae dros India, fe allai Caerdydd wynebu problemau ym mis Ionawr.
Fe fydd Cwpan Asia yn cael ei chynnal bryd hynny, ac fe fyddai’r ymosodwr yn absennol yn ystod nifer o gemau’r Bencampwriaeth.