Doedd y Gweinidog dros Blant, Huw Lewis ddim yn arfer bod ar frys i gynnal refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad ond bore ma, roedd ei sylwadau’n dangos yn bendant bod llywodraeth yn Llundain sy’n cynnwys y Ceidwadwyr wedi newid ei feddwl. Wrth drafod y gyllideb ddrafft gaiff ei gyhoeddi yfory (moelwch eich clustiau am wybodaeth am 3yh), dywedodd y byddai’n adlewyrchu ymroddiad Llywodraeth Cymru’n Un i gyfiawnder cymdeithasol.
“We are not passive victims. We have devolution, we have the Assembly government and we have the option of a referendum next year to enhance our power.”
Rhaid rhoi canmoliaeth -fe ymdopodd yn dda yn ei sesiwn gyntaf o flaen y wasg fel rhan o’r Llywodraeth. Mwynheais i’r cyfeiriad at ei wraig fel “my friend and colleague Lynne Neagle.”
Daeth chwarter y Ceidwadwyr i’w briffing nhw bore ma, gyda Andrew RT Davies y llefarydd iechyd yn ymuno â’r ddau Nick, mae’n siwr mewn rhyw fath o ymgais i ddad-wneud moch wythnos diwethaf. Rhy ychydig rhy hwyr? O leia cawson ni gadarnhad o ffigyrau pobol eraill, sef y byddai polisi’r Ceidwadwyr o ddiogelu’r gyllideb iechydyn golygu toriadau o 20% ar adrannau eraill y Llywodraeth yn hytrach na thoriadau o ryw 11%.
Methes i â mynychu cynhadledd i’r wasg y Democratiaid Rhyddfrydol. Rwy’n cael ar ddeall mai Lembit a’i hwyl yn y jwngwl oedd prif bwnc trafod y pum munud hwnnw, nid y gyllideb fel yr oedd Kirsty a’i thîm yn gobeithio.