Dros y Nadolig eleni fe fydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig yn dathlu goreuon C’mon Midffild, wedi eu dewis gan y gwylwyr.
Mae S4C yn gofyn i wylwyr gysylltu gyda nhw er mwyn helpu i ddewis eu hoff benodau, golygfeydd, cymeriadau, a hyd yn oed linellau enwog o’r gyfres gomedi.
Gall pobol ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 (6c y funud o linell BT) neu lenwi ffurflen ar-lein ar s4c.co.uk/cmonmidffild, er mwyn enwebu eu ffefrynnau.
Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig
Mae S4C eisoes wedi derbyn sawl cais gan wylwyr yn gofyn iddyn nhw ail-ddangos ffilm Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig, eleni eto.
Fe fydd y ffilm, sydd yn dilyn antur dwy ferch wrth iddyn nhw geisio achub y Nadolig o grafangau’r gelyn Mordicai, yn cael ei darlledu ar S4C ar ddiwrnod Nadolig.
Sêr y Nadolig
Fe fydd rhai o wynebau cyfarwydd S4C yn dod ben ben mewn mwy nag un o’r cyfresi arbennig i’w dangos dros y Nadolig eleni.
Yn Carolau Gobaith fe fydd chwech o enwogion Gwlad y Gân yn cael eu rhannu’n ddau dîm, a chael hyfforddiant canu gyda Shan Cothi a Rhys Meirion, cyn mynd ymlaen i berfformio o flaen cynulleidfa byw.
Ac ar ôl buddugoliaeth annisgwyl Dewi Pws a Derwyn Jones y llynedd, fe fydd Dudley Newbury yn ôl i gyflwyno cyfres arall o Pryd o Sêr, gan wahodd wynebau adnabyddus o Gymru i gystadlu yn y gegin a choginio’r prydiau bwyd buddugol.
Un arall o wynebau cyfarwydd Cymru, a Phrydain erbyn hyn, yw Alex Jones, ac fe fydd hi’n dychwelyd i S4C er mwyn cyflwyno Cyngerdd Mawr Talent Cymru o’r CIA yng Nghaerdydd.
Fe fydd Rhydian Roberts, Only Men Aloud, Mark Evans ac eraill yn dod i’n sgrîniau ar gyfer cyfres o berfformiadau dros yr Ŵyl.
Fe fydd ail ffilm S.O.S. Galw Gari Tryfan yn ymddangos ar S4C y Nadolig hwn, gyda Richard Elfyn yn serennu unwaith eto fel y Ditectif o Gymro, Gari Tryfan, a Catherine Ayres a Huw Rhys yn actio’r ddau sidekick wrth ei ochr.
Ac i ddychwelyd i’r fan lle dechreuodd y cyfan, fe fydd rhaglen Nadoligaidd arbennig o Byd Pawb – Yn Ôl i Fethlehem yn dilyn taith teulu o Borthmadog yn ôl i Fethlehem, rhai blynyddoedd wedi iddyn nhw symud o’r ddinas ym Mhalesteina i’r dref yng Ngogledd Cymru.