Mae’n debygol y bydd yr aur o Gymru yn cael ei ddefnyddio er mwyn creu modrwy briodas Kate Middleton.
Y Fam Frenhines oedd y cyntaf i gael modrwy wedi ei chreu o aur o Gymru yn 1923 ac mae’r traddodiad wedi parhau ers hynny.
Defnyddiwyd aur o Gymru ym modrwy briodas y Frenhines yn 1947, y Dywysoges Margaret yn 1960, a’r Dywysoges Diana yn 1981.
Daeth yr aur o fwynfa Clogau ym Montddu ger y Bermo yng Ngwynedd. Dim ond un gram o’r cnepyn o aur hwnnw sydd ar ôl.
Ond ym mis Tachwedd 1981 fe gyflwynodd y Lleng Brenhinol Prydeinig 36 gram o aur Cymreig i’r Frenhines ar gyfer unrhyw fodrwyon fyddai’n cael eu creu yn y dyfodol.
Defnyddiwyd rhan o’r aur hwnnw er mwyn creu modrwy Sarah, Duges Efrog yn 1986.
Cafodd modrwy briodas Duges Cernyw hefyd ei chreu o aur o fwynfa Clogau ac Afon Mawddach gerllaw.