Mae cwmni Trenau Arriva Cymru wedi argymell i gefnogwyr Cymru oedd yn bwriadu teithio ar y trên i’r ornest yn erbyn Fiji i ystyried gwneud trefniadau eraill.
Mae undebau Aslef a RMT wedi pleidleisio o blaid streicio dydd Gwener, yn ogystal ag ar 26 a 27 Tachwedd pan fydd Cymru’n herio Seland Newydd yng Nghaerdydd.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod trafodaethau’n parhau a’u bod nhw’n obeithiol bydd y ddwy ochr yn gallu dod i gytundeb cyn dydd Gwener.
Ond mae’r cwmni wedi dweud y dylai cefnogwyr ystyried defnyddio gwasanaethau eraill. Bydd trenau First Great Western a Cross Country yn dal i redeg.
Ond maen nhw’n rhybuddio na fydd cymaint o bobol yn gallu teithio i mewn i’r brifddinas ar y rheilffyrdd os yw’r streiciau yn mynd yn eu blaen.
Bydd teithwyr sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer gwasanaethau Trenau Arriva Cymru dydd Gwener yma yn gallu teithio am ddim ar unrhyw ddiwrnod arall rhwng 17 a 21 Tachwedd.
Streic
Fe fydd 470 o yrwyr Trenau Arriva Cymru yn streicio dydd Gwener oherwydd ffrae dros gyflogau.
Maen nhw’n dweud bod gyrwyr yng Nghymru’n cael cyflogau is na gyrwyr yng ngweddill gwledydd Prydain.
“Mae yna anghytundeb clir ynglŷn â chyflogau,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol ASLEF, Keith Norman.
“Mae cyflogau ein haelodau yn Trenau Arriva Cymru wedi cwympo’n is na’u cydweithwyr yng ngweddill y diwydiant.
“Mae’n annheg eu cosbi nhw am weithio yng Nghymru. Fyddwn ni ddim yn derbyn bod ein gyrwyr yng Nghymru yn ddinasyddion eilradd.”