Mae Morgannwg wedi cyhoeddi na fydd Jamie Darlymple yn gapten ar Forgannwg y tymor nesaf, gyda chwaraewr tramor newydd y clwb, Alviro Petersen, yn cymryd ei le.
Mae Petersen ar daith o’r Emiradau Arabaidd Unedig gyda De Affrica ar hyn o bryd..
Ar hyn o bryd mae’n gapten ar y Highveld Lions, ac ef yw un o dri chwaraewr o Dde Affrica i sgorio 100 yn ei gêm ryngwladol gyntaf.
“R’yn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau gwasanaethau Alviro ar gyfer y tymor nesaf,” meddai prif weithredwr Morgannwg, Alan Hamer.
“R’yn ni’n glwb uchelgeisiol ac yn rhannu awydd ein cefnogwyr i lwyddo yn y dyfodol.
“Mae record criced undydd Morgannwg wedi bod yn wael dros y blynyddoedd diwethaf a’r gobaith yw y bydd penodi Alviro yn gapten yn newid hynny.
“Mae’n chwaraewr rhyngwladol o safon a hefyd yn arweinydd ardderchog, ac r’yn ni’n edrych ymlaen at gydweithio ag ef.
“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle i ddiolch i Jamie Darlymple am ei wasanaeth yn gapten dros y ddwy flynedd diwethaf.”
Dywedodd Alviro Petersen ei fod o’n edrych ymlaen at y cyfle i gael cydweithio gyda’r chwaraewyr a’r staff hyfforddi er mwyn sicrhau llwyddiant i’r Dreigiau.
“Ar ôl siarad gyda fy nghyd chwaraewyr yn Ne Affrica, rwy’n ymwybodol o hanes Morgannwg, eu cefnogwyr angerddol a’u hawydd i fod yn dîm llwyddiannus unwaith eto,” meddai Alviro Petersen.
Mae Morgannwg hefyd wedi cynnig lle i Mark Cosgrove yn nhîm ugain pelawd Morgannwg ar gyfer 2011.
Mae’r Dreigiau yn aros am ateb y batiwr sydd wedi treulio sawl haf gyda Morgannwg yn y gorffennol gan gynnwys y tymor diwethaf.