Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn blaenoriaethu’r tlawd, meddai gweinidog heddiw wrth iddyn nhw baratoi i ddatgelu’r gyllideb ddrafft yfory.
Dywedodd Huw Lewis, y gweinidog dros blant, bod ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gyfiawnder cymdeithasol yn fwy na “delwedd yn unig”.
Fe fydd gweinidogion yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yfory. Dyma’r gyllideb olaf cyn Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf a’r cyntaf ers yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr fis diwethaf.
Cyhoeddwyd bryd hynny y bydd nawdd y Trysorlys ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei dorri o £15 biliwn i £14.6 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i weinidogion ddod o hyd i arbedion o £860 miliwn yn y gyllideb ddrafft.
Gwarchod teuluoedd tlawd
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, eisoes wedi dweud y bydd o’n amddiffyn budd-daliadau cyffredinol, a blaenoriaethu gwariant ar “ysgolion, sgiliau ac ysbytai”.
“Mae’ Llywodraeth San Steffan wedi ein cyflwyno ni gyda sefyllfa ofnadwy o anodd ei ddatrys mewn amser byr iawn,” meddai Huw Lewis.
“Fe fyddwn ni’n blaenoriaethu’r rheini sydd dan anfantais a’r teuluoedd mwyaf tlawd yng Nghymru.”
Roedd Llywodraeth y Cynulliad eisiau “gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwarchod pobol rhag y gwaethaf o ganlyniadau’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr a’r toriadau mewn gwario cyhoeddus”.
Daw’r toriadau ar ôl degawd o gynnydd mewn gwario cyhoeddus arweiniodd at ddyblu cyllideb Llywodraeth y Cynulliad.
Blaenoriaethu iechyd ac addysg?
Mae pleidiau’r Cynulliad yn anghytuno ynglŷn â pha adrannau ddylai wynebu toriadau, gyda’r Ceidwadwyr yn galw am warchod y gyllideb iechyd £6 biliwn yn gyfan gwbl.
Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Nick Bourne, y byddai ei blaid yn addo gwarchod iechyd, ond nad oedden nhw’n barod i ddweud lle arall fydden nhw’n gwneud y toriadau.
“Rydym ni’n argyhoeddedig y byddai’n bosib,” meddai. “Ond dydyn ddim am ddweud sut ar hyn o bryd.
“Rydw i’n pryderu nad ydi Llywodraeth y Cynulliad yn mynd i flaenoriaethu iechyd fel oedden ni wedi ei obeithio.
“Roedden ni wir wedi meddwl y byddai’r pleidiau eraill yn blaenoriaethu iechyd hefyd.”
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai’r Llywodraeth y Cynulliad ganolbwyntio ar gael gwared ar wastraff a chanolbwyntio ar wella addysg.
“Mae cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn gyfle i wario mwy o arian ar y plant tlotaf yn ein cymdeithas,” meddai ei harweinydd yng Nghymru, Kirsty Williams.