Mae Ryan Jones wedi cael ei benodi’n gapten ar dîm Cymru i wynebu Fiji yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener.
Mae cyn gapten y Gweilch yn dychwelyd ar ochr dywyll y rheng ôl, ac fe fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Matthew Rees.
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi newid haneri Cymru ar gyfer y drydedd gêm yng nghyfres yr hydref. Bydd Richie Rees a Dan Biggar yn cymryd lle Mike Phillips a Stephen Jones.
Fe fydd chwaraewr y Dreigiau, Aled Brew ar yr asgell yn dilyn anaf Shane Williams. Mae George North yn cadw ei le yn y tîm ar ôl sgorio dwy gais yn erbyn De Affrica y penwythnos diwethaf.
Mae’r chwaraewr rheng ôl ifanc, Toby Faletau, wedi cael ei gynnwys ymysg yr eilyddion ac mae disgwyl iddo chwarae dros Gymru am y tro cyntaf nos Wener.
Carfan Cymru
Lee Byrne, George North, James Hook, Andrew Bishop, Aled Brew; Dan Biggar, Richie Rees.
Paul James, Huw Bennett, Adam Jones, Ian Gough, Deiniol Jones, Ryan Jones, Dan Lydiate/Martyn Williams, Jonathan Thomas.
Eilyddion- Richard Hibbard, John Yapp, Bradley Davies, Toby Faletau, Mike Phillips, Stephen Jones, Tom Shanklin.