Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi heddiw eu bod yn talu miliynau o bunnoedd mewn iawndal i garcharorion Prydeinig a fu yng ngharchar ‘terfysgwyr’ Bae Guantanamo.

Yn ôl adroddiad ar raglen y News at Ten neithiwr, mae un carcharor yn debyg o dderbyn mwy na £1 miliwn ar ôl cael ei ddal yn gaeth heb achos llys.

Mae nifer o garcharorion hefyd yn dweud eu bod wedi cael eu poenydio ac fe ddaethon nhw ag achos yn erbyn y Llywodraeth.

Pan wrthododd swyddogion y gwasanaethau cudd, MI5 ac MI6, â rhoi tystiolaeth fe lwyddodd y carcharorion i ennill apêl yn yr Uchel Lys.

Cytundeb

Mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi penderfynu dod i gytundeb yn hytrach na pharhau gyda’r achos a gweld swyddogion cudd yn gorfod rhoi tystiolaeth.

Carchar Bae Guantanamo yng Nghiwba yw un o ganlyniadau mwya’ dadleuol y ‘rhyfel yn erbyn terfysg’ gyda charcharorion yn cael eu dwyn yno wledydd eraill.

Mae’r Arlywydd Obama yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ceisio’i gau.

Llun: Carcharorion ym Mae Guantanamo (Cyhoeddus)