Mae Cyngor Abertawe wedi hysbysebu’r posibilrwydd o osod eu holl wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn nwylo corff neu gwmni o’r tu allan.

Er bod y Cyngor Sir ei hun wedi dweud mai’r bwriad yw rhoi’r gwasanaethau yn nwylo menter gymdeithasol, maen nhw wedi cael eu cyhuddo o breifateiddio anferth.

Fis yn ôl, fe ddywedodd yr aelod cabinet tros wasanaethau cymdeithasol, Nick Tregoning, eu bod yn ystyried creu menter gymdeithasol i wneud y gwaith – ond mae’r hysbyseb ar gyfer cyrff a chwmnïau o’r tu allan.

Y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n arwain y glymblaid sy’n rheoli’r cyngor.

Gwerth £20 miliwn y flwyddyn

Fe fyddai’r cytundeb yn cynnwys popeth o ofal henoed i ganolfannau dydd ac iechyd meddwl a’r amcangyfri’ yw bod y cyfan werth tua £20 miliwn y flwyddyn.

Fe gafodd yr hysbyseb ei gosod ddechrau’r wythnos ddiwetha’ ac mae’n gofyn i bobol fynegi diddordeb. Y nod fyddai dechrau gosod y cytundeb ddechrau Ebrill 2012.

Mae’r hysbyseb ar dudalennau gwasanaeth sell2wales, gwasanaeth y Llywodraeth ar gyfer cytundebau cyhoeddus a does dim i ddweud nad yw cwmnïau preifat yn cael cynnig.

‘Dim penderfyniadau’ – y cyngor fis yn ôl

“Does dim penderfyniadau wedi’u gwneud,” meddai’r cynghorydd wrth bapur y South Wales Evening Post pan oedd y mater yn cael ei drafod am y tro cynta’ yn y cabinet.

“Y cynnig gerbron y cabinet yw i ddatblygu achos busnes i ystyried a yw menter gymdeithasol yn ffordd gynaliadwy o ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion yn Abertawe yn y dyfodol.”

Fe gafodd yr hysbyseb ei datgelu i ddechrau gan flogwyr – ar ôl i rywun o’r tu mewn i’r cyngor dynnu sylw ati – ac maen nhw’n cyhuddo’r Cyngor o breifateiddio’r gwasanaethau.

Llun: Neuadd y Ddinas Abertawe (Cyhoeddus)