Mae’r SNP a Phlaid Cymru wedi galw ar Aelodau Seneddol eraill i gefnogi gwelliant fyddai’n golygu nad ydi etholiad San Steffan a’r gwledydd datganoledig yn gawrthdaro.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu y bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn digwydd ar Fai 7 2015 – yr un dyddiad ag a nodwyd eisoes ar gyfer yr etholaidau Cymreig ac Albanaidd.

Fe fydd y Mesur Tymhorau Penodedig sy’n mynd drwyr senedd ar hyn o bryd yn gosod tymor penodol o bum mlynedd ar gyfer bob etholiad.

Byddai hynny’n golygu bod yr etholiadau yn gwrthdaro eto unwaith eto bob 20 mlynedd.

Mae Plaid Cymru a’r SNP yn pryderu y bydd cynnal Etholiad Cyffredinol yr un diwrnod yn taflu cysgod dros etholiadau’r gwledydd datganoledig.

Heddiw fe wnaeth y ddwy blaid ryddhau datganiad ar y cyd yn galw ar ASau Llafur i gefnogi eu cais i sicrhau y cynhelir yr etholiadau ar wahan.

Mae nhw’n galw am osod tymhorau senedd San Steffan ar bedair blynedd – yn hytrach na phob pum mlynedd fel y cynigir yn y Mesur. Mae’r ASau yn gobeithio dwyn y gwelliant i bleidlais nos Fawrth.

‘Blaenoriaeth’

“Byddai cynnal y ddwy bleidlais ar yr un diwrnod yn niweidiol iawn i ddemocratiaeth yn y cenhedloedd datganoledig, ac y mae Llywodreath San Steffan yn dangos diffyg parch aruthrol i Gymru a’r Alban trwy wthio’r Mesur hwn trwodd,” meddai Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fydd yn siarad ar y gwelliannau.

“Pan gynhelir hwy, rhaid i etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd yn pennu’r blaenoriaethau i wasanaethau cyhoeddus Cymreig megis iechyd, addysg, trafnidiaeth a materion eraill, fod y flaenoriaeth bwysicaf a’r unig flaenoriaeth i bleidleiswyr yng Nghymru.”