Fe fydd y gyflwynwraig, Alex Jones, yn darlledu’n fyw o gêm Cymru v Fiji yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod y sioe Plant Mewn Angen eleni.
Bydd Alex Jones, seren newydd The One Show a sawl cyfres ar S4C, yn cymryd rhan er mwyn dangos i Brydain sut y mae’r Cymry yn mynd ati i gefnogi’r achos.
Fe fydd yna berfformiadau byw yn ystod hanner amser gan y grwpiau The Saturdays a Only Men Aloud er mwyn codi arian at Blant Mewn Angen.
Fe fydd tîm rygbi Cymru hefyd yn cefnogi, drwy wisgo hetiau ‘bobble’ wrth gyrraedd y stadiwm a thynnu llun y sgwad.
Dywedodd Alex Jones ei bod hi’n edrych ymlaen yn arw at y profiad.
“Mae rygbi yn rhywbeth Cymreig ac mae cael ein tîm Rygbi yn y cefndir yn ystod y sioe yn syniad ardderchog,” meddai’r gyflwynwraig.