Mae Eleri Siôn wedi cyhoeddi na fydd hi’n dychwelyd i gyd-gyflwyno gyda Dafydd Du ar raglen frecwast BBC Radio Cymru.

Fe gymerodd Eleri Siôn seibiant o raglen foreuol Dafydd ac Eleri yn gynharach eleni er mwyn rhoi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf.

Fe fydd Caryl Parry Jones yn parhau i gyd-gyflwyno gyda Dafydd Du ar y rhaglen sy’n cael ei darlledu’n fyw am 8.30 bob bore.

“Dwi ‘di ddweud e o’r blaen, ac fe ddweda’i e ’to, ond cyflwyno’r rhaglen yma yw’r swydd orau ym myd darlledu,” meddai Eleri, a roddodd enedigaeth i’w mab, Alffi, ym mis Mai.

“Cyn i fi gael babi, ro’n i’n meddwl na allai ddim byd fy atal, ac fe fyddwn i’n gallu parhau i weithio pump bore’r wythnos ar y rhaglen, yn ogystal a gwneud y rhaglenni chwaraeon.”

Ond mae cael plentyn yn newid pethau, meddai.

“Nawr ein bod ni’n byw yn yr Amwythig, lle mae ‘mhartner i’n gweithio, dydi teithio yn ôl a mlaen i Gaerdydd yn ystod yr wythnos yn ogystal â chyflwyno Camp Lawn bob penwythnos ddim wir yn ymarferol pan dwi’n trio cadw’r balans rhwng bod yn fam a gweithio.

“Efalle ’mod i’n gadael y rhaglen foreuol ar Radio Cymru, ond dydw i ddim yn gadael Radio Cymru. Fe fydda i dal yn cyflwyno rhaglen yr ydw i wedi bod yn frwd drosto ers i fi ddechre ei gyflwyno 10 mlynedd yn ôl, Camp Lawn.

“Dwi wedi mwynhau bob munud o weithio gyda Daf a’r tîm, ac yn dymuno’r gorau i Caryl – fel ffrind ac fel rhywun a roddodd un o’r swyddi cyflwyno cyntaf i fi, 20 mlynedd yn ôl nawr.”

Caryl yn hapus i aros ’mlaen

“Dwi’n cytuno gydag Eleri, mae’n swydd ddelfrydol,” meddai Caryl, “cael siarad am ddwy awr!

“Rydym ni’n cael llawer o hwyl gyda’n gwrandawyr,” meddai. “Dw i wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle i aros ymlaen. Fe fydda i’n falch o gael dilyn yn ôl traed Eleri ac, wrth gwrs, yn gallu parhau i weithio gyda Daf.”