Daeth y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Ngwlad Pwyl i rym heddiw, er gwaethaf pryderon yno ei fod o’n mynd yn rhy bell.
O hyn ymlaen bydd unrhyw un sy’n cael eu dal yn smygu mewn mannau cyhoeddus yn cael dirwy o hyd at 500 zloty (£102).
Ni fydd pobol yn cael ysmygu ar drafnidiaeth gyhoeddus na chwaith ar feysydd chwarae, mewn ysgolion, ysbytai na thafarnau.
Gwlad Pwyl yw’r 25ain gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Gweriniaeth Iwerddon oedd y cyntaf, yn 2004.
Ond mae rhai yn dadlau fod y gwaharddiad yn mynd yn rhy bell mewn gwlad lle’r oedd cyfran helaeth o’r boblogaeth yn ysmygu mor ddiweddar â 1990.
Dywedodd Ryszard Kalisz, o blaid Cynghrair Democrataidd y Chwith, bod y gwaharddiad yn mynd yn rhy bell.
Dylai’r gwaharddiad gael ei ail-asesu i weld os yw’n torri rheolau cyfansoddiadol Gwlad Pwyl, meddai.
Neilltuo ystafell i ysmygwyr
Mae’r gwaharddiad yn caniatáu i dafarndai a bwytai neilltuo un ystafell sydd wedi ei awyru’n dda ar gyfer ysmygwyr.
“Cyn y bydda i’n gadael fy nghartre’, fe fydda i’n ffonio caffi neu fwyty er mwyn gweld a oes ganddyn nhw ystafell ar gyfer ysmygwyr,” meddai Katarzyna Niegos, athrawes 43 oed. “Os na, fe fydda i’n chwilio am rywle arall.”
Ond yn ôl Katarzyna Szyszko, 35, perchennog caffi bach Kawka, dydi hi ddim yn ofni colli cwsmeriaid, er nad oes ganddi ystafell ar gyfer ysmygwyr.
“Mae ein cwsmeriaid wedi addo dod yn ôl beth bynnag, am ein cwmni ac am naws y lle, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n fwy na pharod i fynd tu allan i smygu,” meddai.
“Mae rhai cwsmeriaid yn hapus gyda’r gwaharddiad am nad ydyn nhw’n hoffi’r oglau mwg ar eu dillad.”