Bydd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC, a rhai o arweinwyr eglwysig Cymru yn dod ynghyd yr wythnos hon i efeillio toiled yn adeilad y Cynulliad gyda thoiled yn Burundi.
Er mwyn dathlu Diwrnod Toiledau’r Byd ar 19 Tachwedd, fe fydd toiled yn y Senedd yng Nghaerdydd yn cael ei benodi’n efail i dŷ bach cymunedol yn y wlad Affricanaidd.
Bydd y Llywydd yn derbyn tystysgrif mewn ffrâm ar gyfer toiled arbennig y Senedd, a fydd yn nodi union leoliad ei efail yn Burundi.
Mae’r diwrnod yn rhan o ymgyrch i ddarparu toiledau glân i rai o wledydd tlota’r byd.
Codi arian
Cafodd £60 ei godi gan gefnogwyr lleol i efeillio’r toiled yn y senedd gydag un yn Burundi trwy gynllun Efeillio Toiledau gan elusennau rhyngwladol Tearfund a Cord.
Bwriad Gefeillio Toiledau yw cefnogi cymunedau yn Burundi sydd heb systemau glanweithdra diogel a glân.
Heb y cyfleusterau hyn, mae tri o blant o dan bump oed yn marw bob munud oherwydd dŵr budr a diffyg glanweithdra.
‘Balch’ meddai Dafydd El
Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, mae’r Senedd yn “falch o gael cefnogi’r cynllun Efeillio Toiledau a rhoi cyfle i bobol Burundi fwynhau’r manteisio a ddaw i’w cymunedau o ganlyniad i well systemau glanweithdra.”
Dywedodd un o gefnogwyr yr ymgyrch, Dominic Walker, Esgonb Mynwy, bod hyn yn gyfle i “helpu i dynnu’r tshaen ar afiechydon ymhlith y bobol dlotaf yn y byd”.
“Mae hon yn ymgyrch llawn dychymyg,” meddai’r Esgob, “sy’n ein hatgoffa bod miliynau o bobol yn cael eu hamddifadu o’r cyfleusterau sylfaenol a’r urddas personol yr ydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol bob dydd.”
Neb yn ‘golchi eu dwylo’ o’r ymgyrch
Dywedodd y Parch Hywel Meredydd, Cyfarwyddwr Tearfund yng Nghymru, ei bod hi’n “anodd meddwl bod bywydau un rhan o dair o boblogaeth y byd mewn perygl am nad oes ganddyn nhw doiledau diogel i’w defnyddio.
“Ryden ni wrth ein bodd nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru na’r arweinwyr eglwysig wedi golchi eu dwylo o’r rhan y gallan nhw ei chwarae er mwyn achub bywydau.”
Sefydlwyd yr ymgyrch Gefeillio Toiledau yn 2008 ac, ers ei sefydlu, mae wedi darparu toiledau diogel ar gyfer mwy na 9,000 o bobol yn Burundi.