Fe fydd toriadau mewn cymorth cyfreithiol yn cosbi pobol dlawd ac yn peryglu degau o gwmnïau cyfreithwyr yng Nghymru.
Dyna honiad arweinydd seneddol Plaid Cymru, y bargyfreithiwr Elfyn Llwyd, ar ôl i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyhoeddi toriadau gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd.
Fe gafodd datganiad am y cynlluniau ei roi ar frys heddiw ar ôl i bapurau newydd gyhoeddi rhai manylion anghywir ymlaen llaw.
Mae’r newid yn golygu targedu tynnach ar y bobol fwya’ tlawd, llai o arian i gyfreithwyr a chyfyngu ar amrywiaeth yr achosion sy’n gymwys, yn enwedig achosion sifil.
‘Gwarth’
“Mae’n warth bod y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn bwriadu torri cymorth cyfreithiol ar adeg pan fo miloedd o bobl yn wynebu problemau ariannol difrifol a straen gynyddol,” meddai Elfyn Llwyd.
“Bydd cwmnïau cyfreithiol bychain ym mhob cwr o Gymru yn teimlo’r effaith – mae 520 o gwmnïau practis preifat yng Nghymru.”
“Dyma ergyd arall eto fyth i ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru. Rhaid i gyfiawnder lleol fod yn flaenoriaeth, felly rwy’n annog llywodraeth y DG i ail-feddwl.”
Llun: Elfyn Llwyd