Nid yn aml mae darlledwyr yn codi’u pennau uwchben y parapet a dweud eu dweud. Torrodd Angharad Mair yr arfer trwy annerch rali Cymdeithas yr Iaith y llynedd  ac erbyn hyn does dim pall ar ei hymgyrchu. Ro’n i’n meddwl efallai bod yr arfer yn pylu achos pan es i o amgylch yr Eisteddfod eleni yn holi dramodwyr a chynhyrchwyr beth oedd y dyfodol i S4C, yr ymateb yn ddi-eithriad oedd “Hmmmm, well i mi beidio.”

Ond ymddengys bod yr arfer am barhau. Bore ’ma, roedd Beti George yma yn y Cynulliad yn trafod manylion y mesur iaith a thrio perswadio’r Gweinidog Treftadaeth i roi “statws di-amod” i’r iaith Gymraeg. Gyda hi roedd yr Athro Richard Wyn Jones a’r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, ac roedd y cyfarfod yn ddilyniant i’r llythyr agored gan 80 o Gymry amlwg at Alun Ffred yn Golwg Tachwedd 4.

Roedden nhw’n trin a thrafod y mesur iaith gyda’r Gweinidog am awr yn ôl beth rwy’n ddeall. Pwy a wyr a fuon nhw’n llwyddiannus yn dwyn perswâd arno. Mae’r ymateb swyddogol yn gwbl benagored. Dyma’r datganiad yn llawn: 

Dywedodd llefarydd dros Llywodraeth Cynulliad Cymru: “Wrth i’r mesur iaith bresennol cael ei ystyried a pharhau ar ei thaith trwy’r broses graffu, rydym yn croesawu a gwrando ar bob sylw.

“Yn ystod y broses yma rydym wedi cyflwyno datganiad clir yn y Mesur ar statws swyddogol ar gyfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru.

“Mae Rhan 1 (1) o’r Mesur yn datgan fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. “Mae Rhan 1 (2) yn esbonio sut mae’r statws hynny yn cael effaith trwy’r gyfraith.”

Fe ges i fy nghoglais braidd i’r ymateb cyntaf ddod allan yn uniaith Saesneg. Ond chwarae teg, daeth yr ymateb Cymraeg bron yn unionsyth wedyn, ar ôl i fi ofyn amdano.