Mae adroddiad cyfrinachol wedi dod i glawr yn beirniadu llywodraeth yr Unol Daleithiau am adael i Natsïaid ymgartrefu yno yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Yn ôl y ddogfen 600 tudalen, yn olrhain hanes uned erlyn Natsïaid yno roedd yr awdurdodau wedi gwahodd aelodau o’r Blaid Natsïaidd i’r wlad er mwyn helpu i ddatblygu technoleg yr Unol Daleithiau.

Y New York Times ddaeth o hyd i’r adroddiad ar ôl iddo gael ei osod ar wefan yr Archif Diogelwch Cenedlaethol, sydd yn sefydliad preifat.

Roedd yr Adran Gyfiawnder wedi gwahardd dwsinau o dudalennau o’r adroddiad rhag cael eu cyhoeddi cyn hyn, ar ôl i’r Archif Diogelwch Cenedlaethol siwio er mwyn cael gafael ar y ddogfen.

Recriwtio gwyddonwyr Natsïaidd wedi’r rhyfel

Mae’r adroddiad yn datgelu bod Yr Unol Daleithiau wedi recriwtio gwyddonwyr o’r Almaen i’r wlad wedi’r Ail Ryfel Byd, er gwaethaf gorchymyn yr Arlywydd Truman na ddylai aelodau na chefnogwyr y Natsïaid gael mynd yno.

Roedd Arthur Rudolph yn un o’r cannoedd o wyddonwyr a ddaeth i America yn y cyfnod, er bod swyddogion yn ymwybodol ei fod yn aelod o’r blaid Natsïaidd.

Aeth Arthur Rudolph ymlaen i ddatblygu’r roced Saturn V yn America, gan alluogi NASA i lanio ar y lleuad.
Ym 1984, ar ôl ymchwiliad i’w gysylltiad â throseddau rhyfel posib, fe ddychwelodd i’r Almaen, gan ildio’i ddinasyddiaeth Americanaidd.

Roedd un arall, Otto von Bolschwing, wedi body n cydweithio gydag Adolf Eichman ar ddulliau o erlid yr Iddewon.

Llun: Arthur Rudolph yn dangos model o roced Saturn V (Cyhoeddus)