Mae tri o Gymry amlwg wedi cyfarfod ag Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth heddiw, er mwyn pwyso arno i gryfhau’r Mesur Iaith newydd.

Roedd y tri – y gweinidog Guto Prys ap Gwynfor, yr arbenigwr gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones, a’r ddarlledwraig, Beti George – yn galw am roi statws swyddogol i’r Gymraeg ac addewid i’w thrin yn gyfartal â’r Saesneg.

Roedden nhw’n cynrychioli 85 o awduron, beirdd, clerigwyr, ysgolheigion, artistiaid a phobol fusnes a oedd wedi anfon llythyr agored at y Gweinidog Diwylliant yr wythnos diwethaf.

Daw’r cyfarfod heddiw wedi i Fwrdd yr Iaith apelio eto am ddau newid sylfaenol i’r Mesur, phythefnos cyn pleidlais arno yn y Cynulliad.

‘Sylfaen gadarn’

Dywedodd Richard Wyn Jones eu bod nhw wedi cael awr o gyfarfod er mwyn trafod y Mesur
gyda’r Gweinidog Treftadaeth a bod y mater bellach yn nwylo’r Llywodraeth.

“Fe egluron ni wrtho ein safbwynt, sef y byddai un newid bychan i Fesur yr Iaith Gymraeg yn golygu rhoi statws swyddogol cyflawn a diamod i’r iaith, fel nad oes rhaid ail ymweld â’r cwestiwn hwn yn y dyfodol,” meddai.

“Byddai hynny’n creu sylfaen gadarn ar gyfer yr holl bethau ymarferol eraill sydd angen eu gwneud er mwyn hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg yng Nghymru.

“Gobeithio y bydd yn achub ar y cyfle hanesyddol sydd ganddi wrth ddeddfu am y tro cyntaf am yr iaith Gymraeg.”

Barn Beti

Dywedodd Beti George fod rhaid cynnwys datganiad bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yn y Mesur.

“Yr hyn nad ydw i yn ei ddeall yw ar ôl i’r Pwyllgor Deddfu trawsbleidiol gytuno’n unfrydol i ddatganiad clir bod y Gymraeg yn swyddogol ac yn gyfartal â’r Saesneg, eu bod wedyn wedi mynd yn ôl ar eu gair,” meddai.

“O ddarllen yr hyn sydd yn y papurau newydd, yr argraff yw nad oes angen newid dim yn y Mesur arfaethedig er mwyn cryfhau statws y Gymraeg. Ond nid felly y mae.”

Barn y Bwrdd

Mae Bwrdd yr Iaith hefyd yn dadlau bod angen cryfhau’r datganiad ynglŷn â statws yr iaith – fe ddylai’r Mesur ddweud “yn glir a diamod fod i’r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru”.

Ar hyn o bryd, medden nhw, mae’r geiriau sydd yn y Mesur yn awgrymu mai’r norm yw trin yr iaith yn llai ffafriol na’r Saesneg.

“Naill ai y mae gan iaith statws swyddogol mewn gwlad, neu does ganddi hi ddim,” meddai Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws.

“Mae angen newid y Mesur hwn er mwyn datgan yn gwbl glir ac yn ddiamod fod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru.”

Hawl i iawndal

Mae’r Bwrdd hefyd eisiau i bobol gael yr hawl i iawndal os byddan nhw’n cael cam oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg.

Mewn un enghraifft amlwg, meddai Meri Huws, roedd claf wedi gorfod aros yn hwy nag y dylai am nad oedd y Gwasanaeth Iechyd wedi gallu delio gyda ffurflenni wedi’u llenwi yn Gymraeg.

Yn ôl y Bwrdd, y ffordd orau i ddelio gydag achosion o’r fath yw rhoi hawl am iawn ar gyfer unrhyw golled neu ddioddefaint.