Mae cynghorydd a wnaeth gymharu gweinyddwyr Cyngor Caerdydd gyda’r Natsïaid wedi ei atal o’i waith am ddeufis.

Roedd Ralph Cook, cyn arweinydd y Blaid Lafur ar gyngor y brifddinas, wedi cyfeirio at stormfilwyr y Natsïaid mewn cyfarfod cyngor yn 2009.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman (dde), sydd o dras Iddewig, ei fod o wedi cwyno i Ombwdsman Cymru a bod y sylwadau wedi ei dramgwyddo.

Penderfynodd panel dyfarnu ei fod o wedi torri côd ymddygiad y cyngor ac wedi dod â gwarth ar enw da cynghorwyr.

“Rydw i’n hapus gyda’r penderfyniad o ystyried natur annerbyniol yr iaith a ddefnyddiodd y Cynghorydd Cook wrth gymharu gweinyddiaeth Cyngor Caerdydd â’r Natsïaid,” meddai Rodney Berman.

“Roedd y panel yn cydnabod ei fod o wedi gwneud hynny gan wybod y byddai’n achosi tramgwydd personol i fi.

“Roedd o’n sarhaus ymdebygu dadl ynglŷn â threfn gweithredu y cyngor, oedd yn gyfan gwbl o fewn y rheolau, gyda gweithredoedd cyfundrefn laddodd miloedd o bobol ddiniwed.”