Mae Martyn Williams wedi cyfaddef ei fod o’n dechrau mynd yn nerfus wrth iddo agosáu at ennill 100 o gapiau dros Gymru.
Fe fydd blaenasgellwr y Gleision yn ennill cap rhif 97 yn erbyn De Affrica dydd Sadwrn ar ôl cael ei ddewis yn y rheng ôl yn dilyn anaf Sam Warburton.
Fe fydd angen tri chap arall ar Williams i gyrraedd record Gareth Thomas, y chwaraewr gyda’r mwyaf o gapiau dros Gymru.
Ond gyda Phencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd ar y gorwel fe allai Martyn Williams dorri record Thomas.
Mae Martyn Williams eisoes wedi dweud y bydd o’n ymddeol ar ôl cwpan y byd 2011.
“Dyw e ddim yn rhy bell i ffwrdd, ac fe fydden ni’n dweud celwydd pe bawn i’n gwadu fy mod i’n meddwl am y peth,” meddai Martyn Williams.
“Rydw i fel batiwr criced sy’n dechrau mynd yn nerfus pan mae ei sgôr yn y 90au ac mae’n targedu cant.
“Dim ond Alfie (Gareth Thomas) sydd wedi cyrraedd y cant dros Gymru, ond rydw i wedi bod yma’n ddigon hir i wybod nad oes pwynt edrych y tu hwnt i’r gêm nesaf.”