Mae protestwyr Islamaidd wedi rhoi pabi ar dân heddiw er mwyn protestio yn erbyn seremoni dydd y cofio.
Wrth i filiynau o bobol Prydain dawelu am 11am er mwyn nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe fu’r ymgyrchwyr yn protestio yn Llundain.
Roedd y protest yn cynnwys tua 30 o bobol o’r mudiad Mwslimiaid yn Erbyn Crwsadau.
Fe wnaethon nhw wrthdaro gyda’r heddlu ac fe fu’n rhaid mynd ag un heddwas i’r ysbyty gydag anaf i’w ben. Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met nad oedd ei gyflwr yn ddifrifol.
Cafodd tri dyn eu harestio yn y fan a’r lle ar Exhibition Road, Kensington, dau am droseddu yn erbyn yr heddwch cyhoeddus ac un am ymosod ar heddwas.
Roedd tua 50 o ymgyrchwyr o’r English Defence League wedi ymgasglu gerllaw ond llwyddodd y swyddogion i’w cadw ar wahân.
Wrth i’r cloc daro 11am llosgodd y protestwyr babi mawr gan lafarganu “Milwyr Prydain, llosgwch yn uffern”.
“Rydym ni’n ymgyrchu oherwydd bod hwn yn ddiwrnod i gofio pob milwr, gan gynnwys y rheini a fu farw yn Afghanistan ac Irac,” meddai Asad Ullah o’r mudiad.
“Mae’n afiach bod pobol ddieuog, a phlant dieuog, wedi eu lladd mewn rhyfel anghyfreithlon ac rydym ni’n protestio yn erbyn hynny.
“Rydym ni eisiau i’r Llywodraeth dynnu eu milwyr allan o’r gwledydd yma a rhoi’r gorau i ymyrryd.
“Fe fyddwn ni wedi hoffi cael protestio yn agosach at y gofeb. Rydym ni eisiau torri’r tawelwch a gofyn, beth am y tawelwch ar gyfer y bobol eraill sydd wedi marw?”