Mae Barack Obama wedi beirniadu Gogledd Korea am barhau i orfodi pobol y wlad i fyw mewn tlodi, ar wahân i weddill y byd.
Wrth siarad mewn canolfan filwrol yn Ne Korea, ble mae’r Unol Daleithiau yn cadw garsiwn o 28,000 o filwyr, dywedodd yr arlywydd y gallai Gogledd Korea fod yn wlad gyfoethog pe bai hi eisiau.
“Oherwydd bod Rhyfel Korea wedi gorffen lle y dechreuodd o, yn nhermau daearyddiaeth, mae rhai pobol wedi awgrymu bod y milwyr a fu farw wedi aberthu eu hunain dros ddim byd,” meddai Barack Obama.
“Ond wrth edrych ar y ddemocratiaeth sy’n ffynnu fan hyn a’i dinasyddion diolchgar a gobeithiol, mae un peth yn amlwg: roedd hi’n fuddugoliaeth.
“Roedd hi’n fuddugoliaeth bryd hynny ac mae hi dal yn fuddugoliaeth heddiw.
“Wrth edrych o’r gofod mae’r gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad yn amlwg. Mae yna oleuadau llachar yn Seoul a thywyllwch llwyr yn y Gogledd.”
Roedd yr arlywydd yn Seoul er mwyn cyfarfod gydag arweinwyr eraill gwledydd y G20.
Dywedodd bod y byd yn gobeithio y bydden nhw’n “gweithio gyda’i gilydd” er mwyn datrys y problemau economaidd byd-eang.