Mae dynes wedi ei charcharu am 23 mlynedd am ladd ei chariad oedd yn alcoholig drwy greu coctel oedd yn cynnwys gwrthrewydd ar ei gyfer.

Roedd Cynthia Galens wedi honni yn ystod yr achos llys bod ei chariad Thomas Stack wedi ei cham-drin yn gorfforol ac yn feddyliol.

“Doeddech chi ddim yn gaeth yn ei fflat,” meddai’r Barnwr William Kocher wrth ddedfrydu Cynthia Galens.

“Roedd o’n beth hollol ddi-glem i’w wneud.”

Cafwyd Cynthia Galens yn euog o ddynladdiad ym mis Medi ac roedd hi’n gwybod y byddai’n wynebu hyd at 25 mlynedd yn y carchar.

“Rydw i’n derbyn canlyniadau beth wnes i,” meddai’r fenyw 52 oed wrth lys yn Canandaigua, Efrog Newydd.

“Mae’n flin gen i am yr holl boen ydw i wedi ei achosi i bawb. Rydw i wir yn edifarhau.”

Cafodd Cynthia Galens ei chyhuddo o lofruddiaeth ym mis Ionawr, tri mis ar ôl marwolaeth Thomas Stack, 48 oed.