Fe fydd Amgueddfa Fetropolitan Celf Efrog Newydd yn dychwelyd 19 crair a gafodd eu cymryd o fedd y Ffaro Tutankhamun yn yr Aifft.

Mae’r trysor yn cynnwys ffigurynnau bach a gemwaith, gan gynnwys ci bach efydd, breichled siâp sffincs a mwclis, meddai pennaeth creiriau’r Aifft, Zahi Hawass.

“Diolch i haelioni’r amgueddfa, fe fydd y 19 crair o fedd Tutankhamun yn ymuno gyda gweddill trysorau’r bachgen-frenin,” meddai.

Dywedodd y byddai’r eitemau yn dychwelyd i’r Aifft flwyddyn nesaf ac yn rhan o’r casgliad parhaol yn Amgueddfa Fawr yr Aifft, sy’n cael ei hadeiladu gerllaw pyramidiau Giza ac yn cael ei chwblhau yn 2012.

Dywedodd yr awdurdod creiriau fod y darnau wedi eu gyrru i Efrog Newydd yn 1948 pan gaeodd yr Amgueddfa Fetropolitan arddangosfa yn yr Aifft.

Mewn datganiad ar wefan yr amgueddfa, dywedodd y cyfarwyddwr Thomas Campbell bod yr holl eitemau yn dod o fedd Tutankhamun ac felly roedd gan yr Aifft yr hawl i’w cael nhw’n ôl.

“Doedd y creiriau ddim i fod i adael yr Aifft yn y lle cyntaf, ac felly llywodraeth yr Aifft sy’n berchen arnyn nhw,” meddai.

Daeth yr archeolegydd Howard Carter o hyd i fedd Tutankhamun yn 1922, ac ar y pryd roedd o’n gyffredin bod archeolegwyr yn cael cadw unrhyw beth oedden nhw’n dod o hyd iddo.

Fe fu farw Tutankhamun ar ôl torri ei goes a dal malaria yn 19 oed.