Wiwer wreiddiol y Sîn Roc Gymraeg yw Gari Melville o Gwm Tawe.

Ers y 1970au mae wedi bod yn cadw storfa o drysorau roc a rôl Cymraeg gan hen achub y blaen ar archifau roc ysgolheigion Prifysgol Bangor a churaduron y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Ac fe ddechreuodd y cwbwl i Gari Melville pan glywodd cân gan Meic Stevens mewn gig pan oedd yn 19 oed.

Pan glywodd y gân ‘Gwely gwag’ oddi ar yr LP Gwymon cyn perfformiad y Trwynau Coch un noson, cwympodd dros ei ben a’i glustiau mewn cariad a’r Swynwr o Solfach.

Daeth yn ffrindiau da gyda Meic Stevens (dde), a chael cadw recordiad gwreiddiol llawer o’i glasuron.

A gan fod y canwr yn symud tŷ mor aml, mae wedi bod yn ffodus bod Gari Melville ar gael i gadw llawer o’r trysorau yn saff.

“Hwnna oedd un o’r pethau mwya’ call wnaeth Meic,” meddai.

“Roiodd e demos opera roc Dic Penderyn i fi o 1978, a deg mlynedd wedyn roedd e’n gofyn am gopis, a deg mlynedd wedyn roedd e am gael copi eto. Fi fel archifydd Meic Stevens,” meddai Gari Melville, sydd wedi bod yn cynaeafu cynnyrch y Sîn ers dros 30 o flynyddoedd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd