Mae asgellwr y Scarlets, George North wedi cael ei ddewis yn nhîm Cymru i wynebu De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn.
Mae’r asgellwr 18 oed yn 6’4” yn pwyso 17 ston ac yn cymryd lle chwaraewr y Dreigiau, Will Harries fel un o dri newid i’r tîm gollodd yn erbyn Awstralia penwythnos diwethaf.
Mae Lee Byrne yn dychwelyd i safle’r cefnwr gyda James Hook yn symud i’r canol gyda Tom Shanklin.
Fe fydd Martyn Williams yn ennill cap rhif 97 ar ôl cael ei ddewis yn y rheng ôl yn dilyn anaf i Sam Warburton.
Mae Ryan Jones ac Andy Powell yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael eu dewis ymysg yr eilyddion.
Carfan Cymru
Lee Byrne (Gweilch ), George North (Scarlets), Tom Shanklin (Gleision), James Hook (Gweilch ), Shane Williams (Gweilch), Stephen Jones (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch).
Gethin Jenkins (Gleision), Matthew Rees (Scarlets), Adam Jones (Gweilch ), Alun Wyn Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Dan Lydiate (Dreigiau), Martyn Williams (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch ).
Eilyddion- Huw Bennett (Gweilch ), Paul James (Gweilch ), Ryan Jones (Gweilch ), Andy Powell (Wasps), Richie Rees (Gleision), Andrew Bishop (Gweilch ), Chris Czekaj (Gleision).