Yn ôl pennaeth rhaglenni cyntaf S4C, nid yn yr Alban y mae’r patrwm gorau ar gyfer dyfodol y sianel Gymraeg.

Fe fu Euryn Ogwen Williams yn cynghori’r darlledwyr yn yr Alban cyn sefydlu’r gwasanaeth Gaeleg newydd BBC Alba ddwy flynedd yn ôl.

Wrth gyhoeddi y byddai S4C yn dod dan adain y BBC, roedd Gweinidog Diwylliant San Steffan, Jeremy Hunt, wedi awgrymu defnyddio patrwm tebyg i’r bartneriaeth rhwng y BBC yn yr Alban a’r gwasanaeth iaith Gaeleg, BBC Alba.

Ond yn ôl Euryn Ogwen Williams mae’n annheg cymharu sefylllfa Cymru a’r Alban.

“Mae yna ormod o wahaniaeth sylfaenol rhwng y sefyllfa yn yr Alban a’r sefyllfa yng Nghymru iddo fod yn gymhariaeth o unrhyw ddefnydd,” meddai.

“Mae gyda ni yng Nghymru sector annibynnol llawer cryfach nag sydd yn yr Alban a hynny wedi datblygu oherwydd annibyniaeth S4C.

“Mae BBC Alba yn fodel perffaith ar gyfer yr Alban ond S4C yw’r model ar gyfer Cymru. Y sefyllfa yng Nghymru cyn 1981 yw’r sefyllfa yn yr Alban nawr. Felly dyw cymharu 1981 a 2010 ddim yn gweithio.”

‘Annibynol’

Dywedodd prif weithredwr MG Alba, sy’n ariannu BBC Alba, ei fod o’n croesawu’r sylw a ddaeth i’r sianel yn sgil y drafodaeth am ddyfodol S4C.

“Mae yn ddiddorol iawn bod BBC Alba yn cael ei enwi fel model o gyd-weithio mewn partneriaeth a sut mae’r BBC yn gallu gweithio gyda chwmni arall dan drwydded,” meddai Donald Campbell wrth gylchgrawn Golwg.

“Roedd lot fawr o wrthwynebiad i sefydlu BBC Alba ar y dechrau, gan rai a oedd yn erbyn y cysylltiad gyda’r BBC ac eraill oedd am fwy o hunaniaeth annibynnol i’r sianel Gaeleg.

“Ond mae’n llwyddiant dros y blynyddoedd cynta’ wedi tawelu’r ofnau.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd