Mae’r holl fyfyrwyr deithiodd o Brifysgol Bangor i brotest yn Llundain “yn ddiogel” ar ôl i rai o’r protestwyr droi’n dreisgar ac ymosod ar adeilad pencadlys y Ceidwadwyr.

Dywedodd Sharyn Williams, Is-lywydd Materion Cymreig a’r Gymuned yr Undeb ym Mhrifysgol Bangor, nad oedd neb ohonyn nhw wedi eu hanafu.

Roedd y myfyrwyr yn protestio yn erbyn bwriad y llywodraeth i dorri grantiau i brifysgolion a chodi ffioedd myfyrwyr i hyd at £9,000.

“Y peth pwysig i ni ddoe oedd sicrhau nad oedd neb ym Mangor wedi chwarae rhan yn yr ymosodiad treisgar a’u bod yn ôl ar y bws yn ddiogel,” meddai Sharyn Williams wrth Golwg360.

Dywedodd bod pob myfyriwr o Gymru a fu’n cymryd rhan yn ôl ar y bysiau erbyn tua 2.30pm. Roedd myfyrwyr o Brifysgol Bangor, Aberystwyth, Coleg Gwent, Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a thua 400 o Gaerdydd yn bresennol yn y brotest.

“Doedd ganddon ni ddim clem beth oedd yn digwydd – er bod rhai myfyrwyr wedi gweld mwg a golau yn y pellter,” meddai.

Dywedodd fod 50,000 o bobl wedi “cerdded mewn heddwch i gael eu lleisiau wedi’u clywed”.

“Fel y dywedodd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr, doedd y trais ddim i fod i ddigwydd.

“Roedden nhw mewn grŵp ar wahân a ddim yn gweithredu yn enw Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr,” meddai.

‘Y tlawd yn dioddef’

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru y bydden nhw’n canolbwyntio nawr ar “sicrhau bod ASau yn pleidleisio yn erbyn y toriadau”.

Dywedodd llefarydd ar ran UCM Cymru ei bod hi’n fater “difrifol iawn” bod ASau sydd wedi’u hethol gan honni y bydden nhw’n gwrthwynebu cynyddu ffioedd myfyrwyr bellach yn eu cefnogi nhw.

“Os nad ydyn nhw’n mynd i ddefnyddio eu pleidlais i gynrychioli’r bobl sydd wedi’u hethol, yna dydyn nhw ddim yn cynrychioli’r bobl nac yn gwneud eu swyddi,” meddai.

Rhybuddiodd yr undeb ddoe y bydden nhw’n ceisio gorfodi isetholiad yn etholaethau ASau sy’n cefnogi ffioedd dysgu uwch.

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi addo targedu ASau’r Democratiaid Rhyddfrydol os nad ydyn nhw’n pleidleisio yn erbyn y mesur.

“Teuluoedd a phobl ifanc o gefndiroedd tlotach fydd yn dioddef o ganlyniad i ffioedd uwch,” meddai llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wrth Golwg360.

“Yng Nghymru, mae mwy o fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach. Mae bwlch rhwng arian Prifysgolion Lloegr a Chymru, ac mae’r toriadau am wneud yr adwy yn fwy,” meddai.