Mae’r Samariaid wedi dweud bod angen eu gwasanaethau yn fwy nag erioed wrth i ansicrwydd ariannol daro Cymru.

Ddoe datgelodd yr elusen strategaeth newydd pum mlynedd er mwyn lleihau faint o bobol sy’n cyflawni hunanladdiad yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae tua 300 o bobol yn lladd eu hunain yng Nghymru yn flynyddol, a dynion ifanc yw’r gyfran fwyaf o’r rheini.

Dywedodd prif weithredwr y Samariaid, Catherine Johnstone, y byddai eu gwasanaeth nhw ar gael 24 awr y diwrnod o hyn ymlaen er mwyn darparu cefnogaeth i’r rheini sydd ei angen.

Roedd y toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn golygu bod rhaid iddyn nhw newid eu strategaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf, meddai.

“Pan ydym ni wedi cael dirwasgiad yn y gorffennol mae o fel arfer wedi taro’r sector breifat,” meddai.

“Y tro yma rydym ni’n canolbwyntio yn bennaf ar y sector gyhoeddus a chwmnïau sy’n darparu gwasanaethau.

“Mae gyda ni rôl i’w chwarae wrth gefnogi pobol sydd erioed wedi wynebu colli eu gwaith o’r blaen.”

Dywedodd y Samariaid yng Nghymru y bydden nhw’n canolbwyntio yn bennaf ar y rheini sy’n ystyried cyflawni hunanladdiad, pobol sy’n cefnogi eraill mewn argyfwng, pobol sy’n anafu eu hunain a phobol sydd wedi eu heffeithio gan hunanladdiad rhywun arall.