Mae’r BBC yn gobeithio na fydd streic 48 awr arall ddechrau’r wythnos nesaf yn mynd yn ei blaen wedi’r cwbwl.

Mae penaethiaid y gorfforaeth wedi cytuno i gynnal trafodaethau newydd gyda arweinwyr Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr.

Roedd y newyddiadurwyr wedi streicio dydd Gwener a dydd Sadwrn diwethaf ac roedden nhw am streicio eto dydd Llun a dydd Mawrth.

Ond mae’n debyg y bydd arweinwyr yr undeb yn cyfarfod yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn ystyried a fydd y streic yn mynd yn ei blaen.

Mae’r undeb wedi bod yn pwyso ar y BBC i ailystyried newidiadau i’w gynllun pensiwn os yw’r diffyg ariannol yn llai na £1.5 biliwn pan fydd yn cael ei ail-asesu’r flwyddyn nesaf.

“Dyw’r BBC ddim yn barod i ail agor trafodaethau, y cynnig yw’r cynnig,” meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth.

“Rydym ni’n hapus i gyfarfod gyda’r undebau er mwyn egluro rhai elfennau o’r trefniadau newydd.
“Ond ni fydden ni’n fodlon gwneud hynny os ydi bygythiad streiciau pellach a fydd yn effeithio ar y cyhoedd yn dal i hongian dros ein pennau ni.”