Mae artist ifanc o Giliau Aeron wedi cael cryn lwyddiant gyda’i darluniau lliwgar, prysur o borthladd Aberaeron.

Ers graddio mewn Seicoleg yng Nghaerdydd fis Mai, mae Rhiannon Roberts wedi canolbwyntio ar ei chelf.

“Ro’n i wedi gwneud celf yn Lefel A, a joio fe,” meddai’r artist 21 oed. “Ond o’n i’n meddwl y gallwn i byth wneud gyrfa ohono fe. Nawr fi’n ei wneud e yn llawn amser.”

Ailgydiodd yn y gwaith celf yn ei hail flwyddyn yn y brifysgol a dechrau gwerthu yn dda iawn yn lleol.

Cafodd ei harddangosfa gyntaf yn Neuadd Goffa Aberaeron yn 2009 lle y gwerthodd hanner cant o rai gwreiddiol.

Nawr mae hi wedi troi hen garej yn stiwdio ac yn gwerthu ei gwaith mewn orielau ledled Cymru.

Gweithio o ffotograffau fydd hi, ac yn rhoi ei “twist” ei hun ar bethau. Mae’r tonnau troellog i’w gweld ym mhob un o’i lluniau – “fel bod pobol yn gwybod mai gwaith Rhiannon Roberts yw e”.

“Dw i’n gwneud union be dw i’n gweld yn y ffoto, ond bod fi yn rhoi fy twist i ar bethau,” meddai, “fel bod digon o liw, ac yn adio rhywbeth bach at bob llun. Mae yna ganhwyllau neu flodau yn yr awyr mewn rhai, neu galonnau. Neu gychod cariad, er mwyn rhoi rhywbeth bach doniol neu wahanol am y llun.”

O gwmpas Aberaeron y bydd hi’n gweithio yn bennaf, tref y mae hi yn “obsessed” efo hi a lle mae hi’n byw gyda’i mam-gu.

“Wy wastad yn yr Harbwrfeistr, neu’r Cwch Gwenyn. Jyst gweld y cychod, a goleuadau’r harbwr yn y nos. Wy’n mynd am wâcs rownd Aberaeron ac yn nabod pawb. Mae rhywun neis, rhywbeth llonydd am y lle.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd