Mae Dafydd Huws wedi penderfynu mai’r nofel Nefar in Ewrop fydd yr olaf iddo sgrifennu trwy lygaid y cymeriad chwedlonol, Goronwy Jones y Dyn Dŵad.

Roedd y nofel gyntaf, Dyddiadur Dyn Dŵad yn 1978, yn seiliedig ar golofnau’r awdur ym mhapur Y Dinesydd, yn adrodd anturiaethau Goronwy Jones, y Cofi Dre oedd wedi symud i fyw i Gaerdydd, fel yr awdur ei hun.

Daeth ei sylwadau deifiol a dychanol am y sefydliadau a’r gymdeithas Gymraeg ddinesig yn rhan o gof cenedl.

Mae’r awdur yn cyfeirio at dair nofel olaf cyfres y Dyn Dŵad a gyhoeddwyd ers troad y ganrif fel “trioleg y trai”.

“Dw i wedi treulio tua wyth, naw, ddeg mlynedd ddiwetha’ efo’r Dyn Dŵad,” meddai Goronwy Jones, “a theimlo’n hapusach o’r hanner mod i wedi gwneud.

“Ro’n i angen hyn i’w wneud o – ro’n i angen cwmni’r cyfaill er mwyn cael pethau allan o fy system.

“Ro’n i angen cael y comedi allan; angen cael dweud fy nweud. Dw i wedi gwneud dipyn go-lew o waith efo’r cymeriad am yn agos i ddeg mlynedd. Oherwydd hynny, dw i jyst yn gorffwys y rhwyfau.”

Mae’r awdur yn gyndyn iawn o ddweud a fydd hyn yn ddechrau newydd iddo, yn ei ryddhau i droi at sgrifennu o fath arall.

“Na, no comment,” meddai. “Does gen i ddim i’w ddweud. Dw i wedi dod i ddiwedd ryw gyfnod efo hwn. Dw i yn ei weld o fel degawd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd