Yn ei ddarn barn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae’r sylwebydd Alun Wyn Bevan yn dadlau bod angen i Undeb Rygbi Cymru ystyried prisiau tocynnau yn fwy gofalus yn y dyfodol…
“Cyn dishgwl ‘mlaen at ornest y penwythnos nesa’ rhaid gwneud un sylw ynglŷn â maint y dorf ddydd Sadwrn diwetha’.
“‘Sdim ishe gradd prifysgol i sylweddoli mai arian sydd wrth wraidd cyfres yr Hydref – yr Undeb yn y gorffennol wedi bancio biliynau [ddim quite cymaint â hynny ‘falle] yn y ddegawd ddiwetha’ o ganlyniad i ymweliadau cyson gan dimau Hemisffer y De.
“A do, fe lifodd y cefnogwyr i gyfeiriad y brifddinas i weld eu harwyr. Ond, yn sgîl y sefyllfa economaidd bresennol rhyw hanner can mil ddaeth i Gaerdydd ar gyfer gornest y Wallabies – y prisiau uchel yn gwneud i bobol feddwl o ddifri’ cyn archebu ticedi.
“Rhaid i Undeb Rygbi Cymru ystyried yn ddwys cyn eu prisio neu man a man chwarae’r gemau ar stadia’r rhanbarthau.”
Darllenwch weddill y darn barn yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd