Mae’r actor Matthew Rhys wedi prynu’r hawliau i lyfr am hanes cyrch cyffuriau Operation Julie yn y canolbarth gyda’r bwriad o’i droi yn ffilm.
Daeth yr actor i gysylltiad â Gwasg y Lolfa yn ystod yr haf a holi am lyfr Lyn Ebenezer, Operation Julie: The World’s Greatest LSD Bust.
Nid yw’r wasg yn gwybod eto os fydd yr actor yn ei droi yn ffilm ond, petai yn gwneud hynny, mi fyddai’n ei seilio ar destun yr awdur.
Mae’r llyfr yn adrodd hanes y cyrch enfawr ar gylch cyffuriau yn ardal Llanddewi Brefi yng nghefn gwlad Ceredigion yn 1977.
Daeth yr Heddlu o hyd i chwe miliwn o dabiau LSD a chafodd 120 o bobol eu harestio trwy Brydain ac Ewrop.
“Rwyf wedi dweud erioed bod elfennau ffilm yn y stori. Mae hi’n stori werth ei gwneud,” meddai Lyn Ebenezer.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd