Mae arwr sgorio Cymru wedi gwrthod cadarnhau na gwadu ei fod yn cynnig am swydd rheolwr y tîm cenedlaethol.
Osgoi’r cwestiwn a wnaeth Ian Rush wrth gael ei holi’n galed ar Radio Wales – fe awgrymodd y bydd yn gallu ateb ymhen tuag wythnos.
Cyn flaenwr Lerpwl a Chymru yw ffefryn y bwcis ar gyfer y swydd er mai cymharol aflwyddiannus oedd ei yrfa’n rheoli clwb Caer.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i Lerpwl ac i Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn datblygu chwaraewyr ifanc.
Fe ddywedodd heddiw ei fod yn hapus gyda’r swyddi hynny ond wnaeth e ddim gwadu y byddai ganddo ddiddordeb mewn dilyn John Toshack yn y brif swydd.
Lloegr yn y Mileniwm
Roedd hefyd yn croesawu’r newyddion y bydd gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Ewrop yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.
“Dyna’r unig ddewis,” meddai Rush. “Mi allech chi gael tyrfa o 100,000 i’r gêm yna. Mae’r Cymry’n licio curo’r Saeson ac mae Lloegr yn ddigon agos.”
Llun: Ian Rush (Jarvin CCA 3.0)