Mae myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn gandryll fod Cyngor y Brifysgol heb drafod gofynion ieithyddol swydd yr Is-Ganghellor, ac yn ystyried cynnal protest.
“Mae’n annheg y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei thrin, rydan ni wedi cael ein gadael lawr,” meddai Rhiannon Wade, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberwystwyth.
Ddydd Iau diwetha’ mewn cyfarfod o’r Cyngor – y corff sy’n rheoli’r Brifysgol – roedd disgwyl i’r 20 aelod basio cofnodion oedd yn dweud eu bod wedi cytuno ar ofynion ieithyddol y Pennaeth newydd.
Ond mi’r oedd Cymry Cymraeg y Cyngor ugain aelod yn anfodlon, yn mynnu nad oedden nhw wedi cael unrhyw drafodaeth na chytundeb ar y gofynion iaith ar gyfer y swydd.
“Mae wedi dod i’r amlwg bod aelodau’r Cyngor heb gael yr hawl i drafod y peth, felly r’yn ni’n ystyried cynnal protest ddechrau’r wythnos nesa’,” meddai Rhiannon Wade, sy’n cynrychioli UMCA ar Gyngor y Brifysgol.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Tachwedd