Mae disgwyl i tua 100 o bobol fusnes fynd i gyfarfod yng Nghasnewydd heddiw ynghanol rhybuddion bod canol y ddinas yn wynebu argyfwng.
Mae Siambr Fasnach y ddinas yn galw ar i’r cyngor lleol weithredu i’w helpu nhw wrth i ddwy siop fawr adael y canol – Next yn cau a Marks and Spencer yn symud i’r cyrion.
Mae angen cynnig parcio am ddim a gostwng y trethi i fusnesau, meddai Laura Buchanan Smith o’r Siambr.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales eu bod hefyd yn gobeithio y bydd canolfan siopa newydd yn cael ei chodi yn y canol.
Roedd cynllun arall wedi methu oherwydd y dirwasgiad ond mae’r Siambr bellach yn gobeithio y bydd cynllun newydd, Rhodfa’r Brodyr, yn digwydd.
Llun: Map o ganol Casnewydd (Nilfanion CCA 3.0)